Mynd â chi i’r dudalen hafan
Takes you to the Home Page
Man o ddiddordeb
Place of Interest
Pytiau sain
Audio Clips
Pytiau fideos
Video Clips
Hanes ar ddu a gwyn
Written account
Lluniau
Pictures.
Llwytho i lawr
Download
Dolen
Link
DRAIG FFOREST CLUD (English) by Jim Elliott
The Radnor Dragon (English) by Jim Elliott
DRAIG FFOREST CLUD (Welsh) by Jim Elliott
DRAIG FFOREST CLUD (Welsh) by Jim Elliott
DRAIG FFOREST CLUD by Carolyn Kennard
The Radnor Dragon by Carolyn Kennard
Dreigiau Ynghwsg by Derek Turner
Sleeping Dragons by Derek Turner
Cefnllys Castle Radnorshire Wales - a personal view from above by Julian Ravest
Cefnllys Castle Radnorshire Wales - a personal view from above by Julian Ravest
Hawl tramwy cyhoeddus
Public Right of Way
Hen Losgfynyddoedd by Joe Botting
Ancient Volcanoes by Joe Botting
Ym mlynyddoedd cynnar y Mileniwm gwnaeth y Rhufeiniaid ddifrod ar ddiwylliant hynafol Celtaidd Cymru. Dinistriwyd y drefn lwythol ac, yn y fan sydd bellach yn mynd dan yr enw Maesyfed, ysbeiliwyd yr Ordoficiaid a’r Silwriaid o’u henwau sydd erbyn hyn yn dermau Daearegol a ddefnyddir drwy’r byd yn grwn. Dull y Celtiaid o roi ystyr i fodolaeth dyn oedd galw ar ddreigiau ynghlwm â’r Ddaear, y Gyfundrefn Heulol a Chosmoleg. Roedd ar y Rhufeiniaid eisiau dinistrio’r dreigiau hyn ond, fel y gwelwn, roedd y dreigiau’n dal i fod yn fyw ac iach pan benderfynodd Gerallt Gymro, Archesgob Aberhonddu, herio hen ddraig gysglyd oedd ar ôl ym Maesyfed yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Bu ei Genhadaeth, sef dwyn anweddogaeth i’r Offeiriadaeth, yn fethiant dybryd a’i hanes fu ei gloi ei hun yn yr eglwys yn Llanbadarn Fawr hyd nes oedd modd ei achub. Pan gyrhaeddodd Arglwyddi Normanaidd y Gororau yn y blynyddoedd wedyn, gwelwyd dull mwy trefnus o reoli’r ddraig gysglyd ym Maesyfed. Galwodd Arglwyddi’r Gororau ar rym San Mihangel, yr Amddiffynnwr a Lleiddiad y Ddraig, amgylchynu’r un Ddraig oedd ar ôl a chodi pum Eglwys i ffrwyno’r ddraig ‘ynghwsg’ olaf hon yn Fforest Clud. Yr eglwysi: Llanfihangel Cefn-llys; Llanfihangel Nant Melan; Llanfihangel Rhydieithon; Llanfihangel Casgob; Llanfihangel Disgoed. Yn ôl y sôn, petai Cristnogaeth yn gadael unrhyw un o’r eglwysi arbennig hyn, byddai’r ddraig yn dechrau deffro. Bu bron i hyn ddigwydd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gollodd eglwys Cefn-llys ei tho. Roedd carfan o blaid cau’r eglwys a chael gan bobl fynychu Eglwys y Santes Fair yn Llandrindod. Drwy lwc, nid felly y bu ac mae’r ddraig yn dal i gysgu’n dawel yn Fforest Clud. Mae’r pum eglwys yno i’w darganfod a phob un yn werth chweil mynd i’w gweld.
In early centuries of the first Millennium the Romans wreaked havoc on the ancient Celtic culture of Wales. The tribal structure was destroyed and in what we now call Radnorshire the Ordovicies and Silures were relegated to Geological terms used all over the world. The Celts gave meaning to human existence by calling upon the dragons associated with the Earth, the Solar System, and Cosmology. The Romans wanted to destroy these dragons but we could see that the dragons were still alive and kicking when Giraldus Cambrensis, Bishop of Brecon, decided to challenge a sleepy old dragon left in Radnorshire during the 12th century. His Mission, to bring celibacy to the Priesthood, was spectacularly unsuccessful and he ended up locking himself into the church in Llanbadarnfawr until he could be rescued. The arrival of the Norman Marcher Lords in the years that followed saw a more systematic approach to managing the sleepy dragon in Radnorshire. Summoning the power of St. Michael, the Defender and Dragon Slayer, the Marcher Lords encircled the last remaining Dragon and built a set of five Churches to contain this last ‘sleeping’ dragon in the Radnor Forest. The churches: Llanfiangel Cefnllys; Llanfiangel Nantmelan; Llanfiangel Rhydithan; Llanfiangel Cascob; Llanfiangel Discoed. It is said that, if Christianity were to leave any of these special churches, then the dragon will begin to wake up. This nearly happened in the latter part of the 19th century when the church at Cefnllys lost its roof. There was a lobby to close the church and encourage people to use St. Mary’s in Llandrindod. Fortunately, this did not happen and the dragon remains quietly sleeping in the Radnor Forest. The five churches are there to be discovered and they are all well a visit. Derek Turner
Yn ôl y chwedl, ddyddiau fu, mae draig yn Fforest Clud - a phedair llan o’i chwmpas hi i’w chadw ymhell o’r byd...
Nid pawb sy’n credu’r stori hon Drwy hyd a lled y tir Ond gwelais innau fodiau’i thraed A gwn ei bod yn wir!
Fe’i gwelwch chithau hefyd, Ar daen ar hyd y fro, Yn nhonnau a rhigolau’r tir Sydd yma ers cyn co:
Ceunentydd, pantiau, bryniau fry, gweirgloddiau gleision llyfn a’r pinwydd ar y cribau crwn yw’r pigau ar ei chefn.
A’r cysgodion ar Rydieithon a’i chorau gweigion, mud - adenydd plyg y ddraig yw’r rhain sy’n cysgu yno’n glud.
O Gasgob sguba’i chynffon, drwy Nant Melan a thrwy Ddisgoed - y lôn wen yn ymdroelli’n dawel rhwng y prysgoed.
Gorwedda’i phen yng Nghefnllys o dan yr Ywen wiw, a’i dwfn anadlu yn ei chwsg yw’r niwl wrth droed y rhiw.
Mae fflach ei llygaid llidiog yn smicio’r haul ar ros a phoen ei chri ddolurus yn udo lleddf y nos.
Rhodiais y llwybrau dan yr haul a theimlo gwres ei thân, a chlywed rhuo’i thymer ddrwg yn sŵn y gwynt a’r adar mân.
Wedyn gwêl ffermwyr golli da, dim ond esgyrn sychion ar ôl, y pwll yn sych, y cynhaea’n sâl a chysgodion du ar fryn a dôl.
Y ddraig sydd yma’n deffro o’i chwsg. Caewch y drysau’n glep! Mae hi’n deffro, yn ymystwyrian Yn barod i ddangos ei gwep.
Five churches guard our dragon, the ancient legend goes but 'though most folk are sceptical I have glimpsed his toes...
They mark the fissures in the land where gullies cut right through majestic hills and pastured banks, I’ve seen his sharp spines too
picked out as trees of conifer arched on his back.
It’s true!
Soft shadows on Rhydithon With rows of empty pews, are folded dragon’s wings -he's crouched in midday snooze.
His tail sweeps round from Cascob through Discoed to Nant Melan marking the road like a ribbon mapped out in nature’s plan.
At Cefnllys he rests his head tucked in rings of Yew, while sleeping breath and moistened tongue fashion the misty hue.
When sun glints through the forest It’s the sparkle of his eye and the howl at night in winter the pain of his lonely cry.
I’ve walked the paths in sun’s full heat his fire upon my skin, when wind whips up as birds take flight with the roar that awakes in him.
Then farmers find they've lost some stock and only bones remain, the dew pond dries, the hay crop fails and folk look to the hills again.
Then our dragon rouses from his rest as church doors slam shut tight the beast stands up stretching his limbs and creeps out of the forest at night.